The Canterbury Tales

Dechrau'r Cyflwyniad o The Canterbury Tales yn llawysgrif "Chaucer Hengwrt" (Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llsgr. Peniarth 392D

Casgliad o straeon a ysgrifennwyd gan Geoffrey Chaucer yn y 14g yw The Canterbury Tales (Chwedlau Caergaint). Adroddir y straeon gan griw o bererinwyr ar bererindod o Southwark i Gaergaint er mwyn ymweld â bedd Sant Thomas Becket yn Eglwys Gadeiriol Caergaint. Mae'r Canterbury Tales wedi'u hysgrifennu mewn Saesneg Canol. Er yr ystyrir y chwedlau hyn fel ei weithiau gorau, cred rhai fod strwythur ei weithiau yn efelychu y Decamerone gan Boccaccio, a dywedir fod Chaucer wedi ei ddarllen ar ymweliad blaenorol â'r Eidal.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search